ENGLISH / CYMRAEG
DIWRNOD O WEITHDAI, CREFFTAU A SGILIAU NEWYDD YN NÔL WENT, LLANANDRAS
DYDD SADWRN 17EG Mehefin
CANOL DYDD - 6PM
TOCYNNAU – PLANT £7, OEDOLION A PHLANT DAN 4 OED AM DDIM
Mae Pris y Tocyn yn cynnwys pob un o’r gweithdai
TOCYNNAU AR GAEL O WINNIES, Y WINE BAR A’R WORKHOUSE
GWEITHDAI
FETCH THEATRE Co.
Cwmni theatr teithiol ydy The Fetch Theatre, sy’n cynhyrchu math gweledol iawn o theatr yn cynnwys pypedwaith a gwaith masg. Mae The Fetch wedi ymrwymo i hybu theatr fel gweithgaredd i bawb, ac maen nhw’n dod â theatr o’r ansawdd gorau i gynulleidfaoedd nad ydy’r celfyddydau o bosib o fewn cyrraedd rhwydd iddyn nhw.
Fe fydd Fetch yn cynnal gweithdai pypedwaith Banruku a Scrunch drwy’r dydd, ac fe fyddan nhw’n perfformio EAST OF THE SUN, WEST OF THE MOON ar ddiwedd y dydd.
Stori hudol o antur, dirgelwch a rhamant ydy “East of the Sun, West of the Moon”, wedi’i hysbrydoli gan stori draddodiadol Nordig, gydag arth gwyn dewinol, merch ifanc ac ellyll.
PANIC CIRCUS
Proffesor Panic yn cyflwyno Panic Circus.
Math newydd o gwmni theatr-clown-syrcas heb anifeiliaid, sy’n rhan o draddodiad y syrcas deithiol sy’n datblygu byth a hefyd.
Fe fydd Panic yn cynnal gweithdai sgiliau syrcas drwy’r dydd.
YSGOL GOEDWIG ROOTED
Sam Goddard sy’n rhedeg Rooted, sef Ysgol Goedwig yn Swydd Henffordd.
Maen nhw wedi bod yn weithgar iawn yn datblygu a darparu Ysgolion Coedwig ar draws Swydd Henffordd am sawl blwyddyn ar gyfer pob oedran, ac wedi gweithio gyda phlant mor ifanc â 12 mis oed, gydag Ysgolion Cynradd, Ysgolion Uwchradd, oedolion a hyd yn oed pobl hŷn, mewn cartrefi gofal yn yr ardal.
Fe fydd Sam yn cynnal gweithdai Bwyd Gwyllt drwy’r dydd.
ZU AERIAL
Cwmni sy’n cyfuno’r celfyddydau ydy Zu Aerial Dance, gan ddod â syrcas yn yr awyr a theatr ddawns ynghyd i greu gwaith gweledol atgofus iawn.
Maen nhw’n angerddol am rannu eu sgiliau, ac fel athrawon hyfforddedig maen nhw’n cynnal dosbarthiadau a gweithdai dawns yn yr awyr ac acrofalans i bobl o bob oed a gallu, gan gynnig y cyfle i hedfan.
Fe fydd Zu Aerial yn cynnig hyfforddiant Trapîs, Rhaffau a Sidanau drwy’r dydd.
A LLAWER MWY GYDA -
BEETLES AND BEES – CHWARAE rôl BYWYD GWYLLT
ANNE BELGRAVE – FFELTIO
LIZZIE POWELL – BLODEUWRIAETH
EMILY GEORGE - Zumba
BLUE FOOT FORGE – CREFFT Y GOF
JOHN HYMAS – cÔR POP LLANANDRAS
LOTTIE O’LEARY – CERFIO CERRIG
PAENTIO WYNEBAU, CYTIAU GWEITHGAREDDAU, DAWNSIO’R HWLA, CASTELL BOWNSIO, LLWYFAN BYSGIO
gyda
STONDINAU BWYD A BAR Â DIGONEDD O DDEWIS
NOSON O GERDDORIAETH A DAWNSIO
AR YR UN DIWRNOD
6PM – 11PM
TOCYNNAU - £12, dan 18 OED £6, DAN 4 OED AM DDIM
TOCYNNAU AR GAEL O WINNIES, Y WINE BAR A’R WORKHOUSE
STrange attractor
Band a ffurfiwyd yn Dingle, Swydd Kerry ydy Strange Attractor, sy’n perfformio pob math o wahanol gerddoriaeth. Yn ystod eu tair blynedd efo’i gilydd maen nhw wedi rhyddhau eu halbwm gyntaf “Wacky World”, a’u sengl gyntaf o’r albwm sydd ar fin cael ei ryddhau. Ers rhyddhau’r rhain, maen nhw wedi gwerthu pob tocyn i lawer cyngerdd yn Iwerddon ac wedi cymryd rhan mewn gwyliau, fel Electric Picnic, Gŵyl Jazz Cork ac wedi bod ar daith yn yr Almaen.
“Cyfuniad egnïol o fiwsig yr enaid, jazz ac R&B yn dod yn fyw trwy ddawn gerddorol ardderchog ac adran bres daranol.” - Stephen White, The Last Mixedtape.
“Cadw’r ffync yn fyw!” - Bootsy Collins (James Brown, Parliament, Funkadelic)
The Redlands Palomino Company
Dros y blynyddoedd, mae The Redlands Palomino Company wedi ennill llawer o gefnogwyr brwd ar draws y DU a thu hwnt – diolch yn rhannol i’w sioeau byw gwyllt a’r gefnogaeth frwd a’r amser ar yr awyr gan Whisperin’ Bob Harris Radio 2 ymysg eraill.
“Mae The Redlands Palomino Co yn siglo’n gelfydd rhwng sain gwerinol Cowboy Junkies, tincial stomp llwyfan y Jayhawks ynghyd â dogn hael o ganu gwlad teimladwy Gram Parsons a chanu pync/gwlad amharchus Jon Longford” - Amplifier Magazine
“Perfformwyr disglair o ganu gwlad roc hardd eu crefft” - Rock n Reel
HeFYD PERFFORMIAD CYHOEDDUS CYNTAF ERIOED CÔR POP LLANANDRAS
Cafodd Côr Pop Llanandras ei ffurfio ym mis Ionawr 2017 gan John Hymas, cyfansoddwr sy’n byw’n lleol. Dim ond trefniadau John o glasuron pop (a roc) y mae’r côr yn eu canu. Gallwch chi ddisgwyl unrhyw beth yn amrywio o ganeuon Neil Young neu Radiohead i One Direction neu Take That.
Dylai unrhyw un â diddordeb mewn ymuno gysylltu â John trwy ei wefan.